Yn gryno …
Er, yn anffodus, bod rhai pobl yn mynd dros ben llestri gyda materion iechyd a diogelwch, erys y ffaith bod y rhain yn bryderon pwysig y mae’n rhaid eu cymryd yn ddifrifol iawn. Dyna’r achos mewn unrhyw weithle ond, yn enwedig felly, pan fyddir yn gweithio gyda phobl fregus a allai, mewn rhai ffyrdd, wynebu mwy o risgiau na mae eraill. Felly, beth yw eich cyfrifoldebau o ran iechyd a diogelwch?
Dyna’r union beth y mae’r bennod yma yn ei drin a’i drafod. Mae pedair agwedd y byddwn yn eu trafod:
Pwysigrwydd iechyd a diogelwch
Cyfrifoldebau cyfreithiol a moesegol
Symud a thrin
Ei gael yn iawn
Yr
hanfodion
Rydym
yn dechrau wrth roi iechyd a diogelwch yn ei gyd-destun ac yn
ystyried pam ei fod yn bwysig, yn gyffredinol ac yn benodol yn eu
cysylltiad â’ch rôl fel cynorthwy-ydd personol.
Nid
oes disgwyl i chi fod yn arbenigwr mewn iechyd a diogelwch felly nid
oes rhaid i chi wybod am yr holl fanylion cyfreithiol neu dechnegol.
Fodd bynnag, mae gofyn i chi wybod beth yw eich cyfrifoldebau fel
eich bod mewn lle da i sicrhau nad oes peryglon diangen.
Mae’r
fideo nesaf yn fan cychwyn da:
Fideo
4.1: Pwysigrwydd iechyd a diogelwch (Saesneg yn unig)
Rydym
nawr yn mynd i edrych ar oblygiadau cyfreithiol a moesegol iechyd a
diogelwch a dyna beth mae’r fideo nesaf yn ei drin a’i drafod.
Fideo
4.2: Cyfrifoldebau cyfreithiol a moesegol
Bydd
rhai cynorthwywyr personol yn gorfod symud yr unigolyn y maent yn
gofalu amdano - er enghraifft, rhywun nad yw’n medru cael i’w
wely ac allan ohono heb gymorth. Mae’n hynod bwysig bod y cyfryw
symudiadau’n cael eu gwneud yn ofalus ac yn unol â’r trefniadau
cywir er mwyn sicrhau na fyddwch yn niweidio’ch hun na’r unigolyn
yr ydych yn ei gefnogi. Cyn gwneud y math hwn o waith bydd angen
hyfforddiant arbenigol arnoch a chael yr hyn a elwir yn ‘Pasbort
Codi a Chario Cymru Gyfan’. Felly, a fyddech cystal â sicrhau nad
ydych yn achosi problemau i chi’ch hun neu i’r unigolyn yr ydych
yn ei gefnogi trwy ymgymryd â thasgau codi a thrin cyn eich bod wedi
cael yr hyfforddiant priodol.
Mae’r
fideo a ganlyn yn fan cychwyn da i ddysgu beth
i beidio âi wneud pan fo gofyn i chi symud
neu godi rhywun:
Fideo
4.3: Symud a thrin: beth i beidio â’i wneud (Saesneg yn unig)
Dyma
i chi fideo defnyddiol arall o ran symud a thrin:
Fideo
4.4: Symud a chynorthwyo (Saesneg yn unig)
Yn
y rhan olaf yma o Bennod 4 rydym yn edrych ar ddarlun o iechyd a
diogelwch fel y mae’n berthnasol i chi yn eich rôl fel
cynorthwy-ydd personol. Gwneir hyn er mwyn sicrhau eich bod yn
teimlo’n gyfforddus ac yn hyderus wrth gyfrannu at amgylchedd
diogel.
Fideo
4.5: Ei gael yn iawn (Bydd y fersiwn Gymraeg o'r fideo hwn ar gael yn fuan)
No comments:
Post a comment