Casgliad
Llongyfarchiadau
ar gyrraedd diwedd y bennod gyntaf. Y gobaith yw ei bod wedi rhoi i
chi ddarlun clir o’r hyn y mae’n golygu i fod yn gynorthwy-ydd
personol. Mae hynny’n beth gwerth chweil ynddo’i hun ond, hefyd,
mae’n gosod y sylfaeni ar gyfer yr hynny y byddech yn dysgu amdano
yn y penodau eraill.
Dyma’r
pwyntiau dysgu allweddol o’r bennod yma:
Bwriad
gofal personoledig yw helpu’r anabl a/neu bobl hŷn i fyw bywydau
mwy annibynnol a bod â mwy o reolaeth dros y gofal a’r gefnogaeth
y mae eu hangen arnynt.
Mae
gan gynorthwywyr personol rôl bwysig i’w chwarae wrth wireddu’r
syniad o ofal personoledig. Maent yn gwneud amryfal dasgau sy’n
angenrheidiol i alluogi’r unigolyn y gofelir amdano gael bywyd
llawnach a mwy ystyrlon.
Mae
angen i gynorthwywyr personol fod â gwybodaeth, sgiliau a gwerthoedd
priodol er mwyn ymgymryd â’u dyletswyddau yn effeithiol ac yn
gyfrifol.
Mae
problemau cyffredin y mae angen eu hosgoi ac wrth fod yn ymwybodol o
beth yw’r rhain, mae’n llai tebygol y cyfyd problemau.
Felly,
gyda hyn, byddwch yn gallu dechrau ar bennod 2. Ond, yn gyntaf,
treuliwch ychydig o amser yn meddwl am yr hyn yr ydych wedi’i
ddysgu hyd yn hyn. Mae’r cwestiynau isod wedi’u paratoi i’ch
helpu i wneud hyn.
Munud
i feddwl
Beth
sy’n eich taro’n fwyaf arwyddocaol o’r bennod yr ydych wedi’i
chwblhau?
Oes
rhywbeth wedi’ch synnu? Os oes, ym mha ffordd?
Oes
rhywbeth yn ddirgelwch i chi neu’r hoffech wybod mwy amdano?
Sut
gallai’r hyn yr ydych wedi’i ddysgu eich helpu yn eich rôl?
Nid
oes atebion cywir nac anghywir i’r cwestiynau yma; maent yno’n
unig i’ch helpu i fyfyrio ar yr hyn yr ydych wedi’i ddysgu.
Efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi wneud ychydig o nodiadau er
mwyn troi atynt yn y dyfodol.
Bwrw
ymlaen gyda’r dysgu
Da
iawn chi ar gael cyn belled! Rwy’n gobeithio eich bod yn teimlo ei
fod wedi bod yn werth yr ymdrech hyd yn hyn. Bellach, dylai bod
gennych ddealltwriaeth sylfaenol dda o’r hyn sydd ynghlwm wrth y
gwaith. Gyda hyn, byddwch yn gallu symud ymlaen i’r ail bennod a
mynd â’ch dealltwriaeth ymhellach. Ond, yn gyntaf, hoffem i chi
feddwl am ychwanegu at yr hyn y mae’r bennod yma wedi’i gynnwys o
ran gofal personoledig a’ch rôl chi fel cynorthwy-ydd personol.
Felly, yr hyn yr ydym wedi ei roi ynghyd yw set o adnoddau sy’n
debygol o fod yn ddefnyddiol i chi. Byddem yn argymell eich bod yn
edrych ac yn gwrando arnynt yn sydyn nawr ond gwnewch nodyn i ddod yn
ôl a throi atynt unwaith yr ydych wedi cwblhau’r arweinlyfr fel
bod modd i chi fwrw ymlaen gyda’ch dysgu.
PecynCymorth Cyngor Gofal Cymru ar gyfer cyflogwyr Cynorthwywyr Gofal.
Mae’r ddogfen hon wedi’i hysgrifennu o safbwynt y cyflogwr ond
mae’n parhau i fod yn ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth.
Er
nad oes rhaid i chi, fel Cynorthwy-ydd Personol, gofrestru gyda
Chyngor Gofal Cymru, mae ei Gôd Ymafter Proffesiynol yn sylfaen i’r
egwyddorion o weithio fel gweithiwr gofal cymdeithasol a gallai fod
yn adnodd da i chi. Gallwch wrando ar y Côd isod.
Rhannwch
y trac
Ceir
hefyd wybodaeth ddefnyddiol am daliadau uniongyrchol o’r sefydliad
Gwasanaethau ar gyfer Byw’nAnnibynnol (Saesneg yn unig).Cofiwch mai rhai yn unig o’r adnoddau dysgu ychwanegol y gallwch dynnu arnynt pan gewch y cyfle yw’r rhain.
A
fyddech cystal â pheidio ag anghofio amdanynt gan eu bod yn gallu
chwarae rôl bwysig mewn ehangu a dyfnhau eich dysgu.
Yn
olaf cymerwch ran yn y cwis byr yma i weld a ydych yn barod i symud
ymlaen i Bennod 2