Yn
gryno …
Yn
y bennod gyntaf yma edrychwn ar bedair set bwysig o faterion yn
ymwneud â’ch rôl fel cynorthwy-ydd personol. Ceir cyflwyniad
fideo ar gyfer pob un ohonynt:
Athroniaeth
gofal personoledig a thaliadau uniongyrchol
Rôl
y cynorthwy-ydd personol
Y
wybodaeth, sgiliau a’r gwerthoedd sydd eu hangen
Yr
heriau a’r peryglon sydd ynghlwm
Yr
hanfodion
Yr
hyn y mae angen i chi ei wneud nawr yw gweithio’ch ffordd trwy bob
un o bedair elfen y bennod yma. Mae’r cyntaf yn dechrau gyda fideo
byr am daliadau uniongyrchol ac yna’n syth wedyn bydd fideo sy’n
egluro’r hanfodion y tu ôl i gyflogi cynorthwywyr personol.
Fideo
1.1: Taliadau uniongyrchol (Saesneg yn unig)
Fideo
1.2: Athroniaeth gofal personoledig a thaliadau uniongyrchol
Nawr
eich bod wedi dysgu am ofal personoledig rydym am edrych ar rôl y
cynorthwy-ydd personol. Ceir fideo defnyddiol iawn sy’n tanlinellu
rôl y cynorthwy-ydd personol a dylech ei wylio nawr.
Fideo
1.3: Rôl y cynorthwy-ydd personol (Saesneg yn unig)
Yn
sgil y fideo blaenorol, dylai bod gennych ddealltwriaeth well o’ch
rôl fel Cynorthwy-ydd Personol. Fodd bynnag, bydd adegau lle bydd
angen i chi, o bosib, addasu’r ffordd y byddwch yn gweithredu
pethau, gan ddibynnu ar yr unigolyn yr ydych yn gweithio ag o neu ei
anabledd neu ei anghenion cefnogi. Yn y fideo nesaf, tanlinellir rhai
o’r heriau hynny gyda phobl â dementia ond, gyda gobaith, bydd yn
codi eich ymwybyddiaeth i addasu eich arddull er mwyn diwallu
anghenion unrhyw unigolyn a’i anghenion penodol.
Fideo
1.4: Gweithio gyda Chlient â Dementia (Saesneg yn unig)
Mae’n
bwysig bod yn ymwybodol bod llawer yn gyffredin rhwng Cynorthwy-ydd
Personol a gweithwyr cymdeithasol eraill ond hefyd bod gwahaniaethau
sylweddol hefyd. Efallai bod gweithwyr cymdeithasol eraill yn rhan o
dîm, bod ganddynt nifer o gleientiaid ac ysgol yrfa ond, y
gwahaniaeth mwyaf yw bod y Cynorthwy-ydd Personol yn cael ei
gyflogi’n uniongyrchol gan yr unigolyn y mae’n ei gefnogi yn
hytrach na chan sefydliad, Fel Cynorthwy-ydd Personol rydych yn
uniongyrchol atebol i’r unigolyn yr ydych yn ei gefnogi.
Felly,
erbyn nawr, dylai bod gennych ddarlun cliriach o’r hyn y mae gofal
personoledig yn ei olygu a sut mae’ch rôl chi fel cynorthwy-ydd
personol yn ffitio i mewn i hynny. Nesaf, rydym am edrych i mewn i’r
wybodaeth, y sgiliau a’r gwerthoedd y mae ar gynorthwy-ydd personol
ei angen i wneud y gwaith yn dda. Mae’r fideo nesaf yn rhoi darlun
bras o’r hanfodion.
Fideo
1.5: Y wybodaeth, y sgiliau a’r gwerthoedd sydd eu hangen
Dylai
hwn, bellach, roi i chi sylfaen i ychwanegu ati dros amser fel bod
modd i chi fynd o nerth i nerth yn eich rôl. Beth ddylai helpu hefyd
yw bod ag ymwybyddiaeth o rai o’r peryglon i’w hosgoi, rhai o’r
pethau a all fynd o’u lle ac achosi problemau. Dyma’r hyn y
mae’r fideo nesaf yn ei drin a’i drafod. Wrth reswm, ni fydd
gwylio’r fideo'n gwarantu na fyddwch yn dod wyneb yn wyneb â’r
peryglon, ond bydd yn bendant yn lleihau’r siawns – arfog, a
gaffo rybuddl!
Fideo
1.6: Yr heriau a’r peryglon ynghlwm
Cliciwch yma i barhau
No comments:
Post a comment