Dichon
eich bod yn cofio o Fideo 1.1, pan fyddwch yn gweithio fel
Cynorthwy-ydd Personol cyflogai ydych ac mae gennych hawl i’r cyfan
o’r un hawliau ag unrhyw gyflogai arall.
Mae
hyn yn cynnwys hawl i:
- Ddisgrifiad swydd
- Contract Cyflogaeth
- Gwyliau ar dâl
- Cyfnod mamolaeth neu dadolaeth ar dâl
- Cyfnod salwch ar dâl
Efallai
bod gennych hefyd hawli gofrestru’n awtomatig ar gynllun pensiwn y gweithle
os
ydych yn 22 oed neu drosodd (a than oed derbyn pensiwn y
wladwriaeth), ac yn cael eich talu dros £192 yr wythnos neu £833 y
mis (ffigyrau’n gywir ar gyfer 2015-16 a chânt eu hadolygu’n
flynyddol).
Cewch
wybod mwy am eich hawliau cyflogaeth trwy edrych ar daflenni
ffeithiau’r TUC (yn Saesneg yn unig)

Fel
Cynorthwy-ydd Personol yn gweithio ar ei ben ei hun neu mewn tîm
bychan, rydych yn fwy bregus i’r ychydig gyflogwyr drwg sydd allan
yno. Fel pob gweithiwr arall, mae gennych hawl i ymuno ag undeb
llafur i’ch cynorthwyo i roi i chi warchodaeth a chefnogaeth yn
eich cyflogaeth. Mae UNSAIN, yr undeb llafur ar gyfer gweithwyr y
gwasanaeth cyhoeddus, yn arwain rhan o’r bartneriaeth y tu ôl i’r
Arweinlyfr yma ac mae wedi ymrwymo i warchod Cynorthwywyr Personol a
hyrwyddo datblygiad rôl y Cynorthwy-ydd Personol.
Ac
oherwydd bod UNSAIN yn gwybod bod y math yma o waith yn gallu bod yn
ynysig maent hefyd wedi creu cymuned ar lein bwrpasol, RhwydwaithCefnogi Cynorthwywyr Personol UNSAIN
i roi gwybodaeth ac arweiniad ar faterion yn y gweithle y mae
Cynorthwywyr Personol yn eu hwynebu. Mae’r safle’n canolbwyntio’n
bennaf ar Loegr, ond mae’n rhoi i chi’r cyfle i rannu syniadau ac
arfer gorau ac mae’n cynnig dolenni i sefydliadau eraill sy’n
cynnig cefnogaeth a gwybodaeth.
Fel
aelod o UNSAIN gallwch gymryd mantais o bopeth sydd gan yr undeb i’w
gynnig, gan gynnwys:
- Cyngor a chefnogaeth arbenigol a chyfreithiol i chi yn y gwaith ac i’ch teulu gartref
- Cymorth ariannol a chyngor ar ddyledion mewn adegau o angen
- Iawndal am ddamwain a niwed i chi a’ch teulu
- Cynigion a phrisiau is i aelodau
- Llinell gymorth bwrpasol i roi i chi’r cyngor y mae ei angen arnoch pan fo’i angen arnoch
- Mynediad at ddysgu a datblygu pellach
- Bod yn rhan o fudiad cymdeithasol blaengar
No comments:
Post a comment