Nod
yr adnodd ar lein hwn yw rhoi i unrhyw un sydd un ai eisoes yn
gweithio fel Cynorthwy-ydd Personol mewn gofal cymdeithasol neu’n
meddwl ymuno â’r proffesiwn ffordd gyfredol a hygyrch o ddysgu mwy
am rôl y Cynorthwy-ydd Personol, dod yn ymwybodol o’r materion
allweddol sy’n wynebu Cynorthwywyr Allweddol a chael gafael ar
ffynonellau o ragor o wybodaeth, dysgu a chefnogaeth.
Daw’r
arweinlyfr hwn ynghyd â rhai o’r adnoddau ar lein gorau sydd ar
gael law yn llaw â fideos sydd newydd eu creu a deunydd ysgrifenedig
mewn un lle.
Mae’r
arweinlyfr wedi’i ysgrifennu a’i gasglu ynghyd gan swyddogion
proffesiynol allweddol o’r sefydliadau isod sy’n bartneriaid, yn
eu plith swyddog proffesiynol arweiniol gwaith cymdeithasol, Dr Neil
Thompson.
Ein
gobaith yw y bydd o ddiddordeb ac o gymorth i chi.
Y
Bartneriaeth
Mae’r
arweinlyfr ar lein hwn ar gyfer Cynorthwywyr Personol yng Nghymru
wedi’i ddatblygu gan bartneriaeth o’r sefydliadau a ganlyn:

UNSAINCymru yw’r undeb
llafur i weithwyr y gwasanaeth cyhoeddus. Mae gennym fwy na 100,000
o aelodau yng Nghymru’n gweithio mewn gwasanaethau cyhoeddus. Fel
yr undeb llafur arweiniol, rydym yn arwain y ffordd yn yr ymgyrch i
amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus a gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus
Cymru.

Prosiect
dysgu gydol oes a grëwyd gan Unsain Crymu, a gynhelir gan WEACymru ac a
ariennir gan Gronfa Ddysgu Undeb Cymru Llywodraeth Cymru (2013-16) yw
DigiSkillsCymru.
Nod y prosiect yw arwain gwaith cydlunio cyfleoedd newydd i weithwyr
gwasanaethau cyhoeddus iddynt ddatblygu eu gallu digidol a hyrwyddo
cynhwysiad digidol ar draws y gwasanaethau cyhoeddus trwy recriwtio a
hyfforddi hyrdiwyddwyr digidol.

Prosiect
dysgu gydol oes a grëwyd gan UNSAIN Cymru, a gynhelir gan GonsortiwmBywydau Cymunedol ac a
ariennir gan Gronfa Ddysgu Undeb Cymru Llywodraeth Cymru (2013-16) yw
Dwyn Dysgwyr ynghyd yn Ne aChanolbarth Cymru. Nod y
prosiect yw cefnogi ac ategu cyfleoedd dysgu yn y gwaith yng
nghyswllt gofal cymdeithasol a thai cymdeithasol - gan ganolbwyntio’n
benodol ar sgiliau sylfaenol llythrennedd a rhifeg.

Awdurdod
lleol yn Ne-ddwyrain Cymru sy’n darparu ystod o wasanaethau gofal a
chefnogi ar gyfer y rhai sydd wedi’u hasesu i fod yn gymwys yw
Cyngor Bwrdeistref SirolTorfaen. Wrth wneud hyn,
mae Torfaen yn eiriolwr cryf yng nghyswllt taliadau uniongyrchol ac
yn cydnabod y gwerth hanfodol o allu cynnig i unigolion fwy o ddewis,
rheolaeth, hyblygrwydd a gofal person ganolog.
Cwmni elusennol a reolir gan ddefnyddwyr gwasanaeth a’r teulu sy’n gofalu amdanynt yw Gwasanaethauar gyfer Byw’n Annibynnol (SIL). Mae SIL yn darparu gwasanaethau sy’n galluogi pobl anabl a phobl hŷn i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain yn eu cymunedau eu hunain.

Avenue
Learning Centre:
darparwyr atebion dysgu ar lein arloesol o ansawdd uchel ar gyfer
gweithwyr proffesiynol. Cafodd y Dr Neil Thompson ei gomisiynu i
gynhyrchu fideos cyfarwyddiadol a deunydd ysgrifenedig ar gyfer yr
adnodd hwn.
Gyda diolch i WEA YMCA CC Cymru am en cymorth a'u cefnogaeth, yn anbenig i Buddug Wiliam
Trwyddedu a Defnyddio’r Arweinlyfr

Mae Arweinlyfr Ar Lein y Cynorthwy-ydd
Personol wedi’i drwyddedu dan Drwydded Ryngwladol Creative
Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0
yn seiliedig ar waith yn
https://p2pu.org/en/courses/2763/the-personal-assistants-online-guidebook/.
Mae
croeso i chi "glonio" ac ailgymysgu’r adnodd hwn ar
P2PU.org
a defnyddio’r deunyddiau gwreiddiol ynddo yn unol â thelerau’r
drwydded
Fodd
bynnag, nid yw unrhyw ddeunydd trydydd dosbarth sydd ar gael i bawb
ynddo’n dod dan drwydded Creative Commons oni nodir yn wahanol gan
y perchenogion.
Er
y gwnaed pob ymdrech i ddewis adnoddau allanol o ffynonellau
dibynadwy, ni all partneriaid y cydlunio dderbyn cyfrifoldeb am
ansawdd a/neu gywirdeb cynnwys y gwefannau allanol sydd â dolenni
i’r wefan.
No comments:
Post a comment